Deiseb a gwblhawyd Dylid caniatáu i drigolion Cymru deithio i bysgota yr un fath â'n cymheiriaid yn Lloegr
Mae pysgotwyr Cymru wedi cael llond bol ar gael eu trin yn wahanol i'r rheini yn Lloegr.
Ar hyn o bryd, ni chaniateir i ni deithio'n lleol i wneud ymarfer corff. Caniateir i bobl Lloegr sy’n syrthio oddi fewn i haen 4 deithio, a dyna’r achos pan eu bod yn syrthio oddi fewn i haen 5, hyd yn oed.
Rydym ni fel pysgotwyr yn deall y peryglon sy’n gysylltiedig â phandemig COVID-19, ond mae pysgotwyr yn defnyddio'r amser hwn i gynnal eu lles meddyliol, eu gallu i ganolbwyntio ac i leihau eu lefelau o straen. Dylid rhoi’r hawl eto i bawb ymgymryd â’r gamp hon, sy’n cadw pellter cymdeithasol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon