Deiseb a wrthodwyd Blaenoriaethu criwiau badau achub gwirfoddol, a gwasanaethau brys eraill, i gael brechlyn COVID-19
Mae criwiau badau achyb ein cenedl yn peryglu eu bywydau’n rheolaidd drwy fynd allan i’r môr i helpu’r rhai sydd mewn angen. Mae’n bwysig ein bod yn gallu cael gafael ar y brechlyn yn gynnar gan ei bod bron yn amhosibl i ni ynysu’n gymdeithasol yn iawn tra rydym yn ymateb i gais fyw am wasanaeth, neu wrth hyfforddi.
Am fod ein criwiau’n ffit ac yn gymharol ifanc, byddwn ymysg yr olaf i gael y brechlyn. Er hynny, rydym yn parhau i bynnal gwasanaeth achub 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn
Mae hyn yn risg annerbyniol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau a rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ers creu'r ddeiseb, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi