Deiseb a gwblhawyd Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy’n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth

Mae ein merch, Olivia, yn 17 oed ac mae ganddi anghenion iechyd meddygol cymhleth sy’n galw am ofal 24 awr. Mae hi mewn perygl o ddal y feirws angheuol hwn bob dydd heb unrhyw system brofi!!

Llofnodwch, plîs! Mae’r staff cymunedol rydym yn sôn amdanynt yn weithwyr rheng flaen sy’n gofalu am bobl agored i niwed, ac maent yn rhoi’r holl ofal personol ac yn cyflawni tasgau angenrheidiol yn y cartref sy’n ofynnol mewn amgylchedd ysbyty.

Rhagor o fanylion

Mae profion wythnosol ar gael ar safleoedd y GIG
Mae profion wythnosol ar gael mewn cartrefi gofal
Mae profion wythnosol ar gael mewn cartrefi preswyl ysgolion arbennig

Rwyf wedi cysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyfeiriodd y mater at ein bwrdd iechyd lleol, ond maent wedi GWRTHOD diogelu Olivia a phrofi ei staff!

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

50 llofnod

Dangos ar fap

10,000