Deiseb a gwblhawyd Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy’n astudio meddygaeth fel ail radd
Mae’n rhaid i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau meddygaeth israddedig sydd eisoes wedi astudio gradd gyntaf dalu £9,250 o flaen llaw ar gyfer ffioedd dysgu, sef cyfanswm o £37,000 erbyn dechrau eu pedwaredd flwyddyn astudio.
Mae llawer o fyfyrwyr yn gorfod gweithio swyddi rhan-amser yn ystod eu cwrs heriol, ac mae’n rhaid iddynt ddod o hyd i gymorth allanol. Dylid darparu grantiau ffioedd dysgu i’r myfyrwyr meddygaeth hyn er mwyn atal myfyrwyr rhag peidio â gallu canolbwyntio ar eu hastudiaethau na’u hariannu.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon