Deiseb Dylid penderfynu nawr i gynnal etholiadau 2021 drwy'r post.
Yn sgil y pandemig parhaus, newidiwch etholiadau mis Mai 2021 ar frys i’w cynnal yn gyfan gwbl drwy'r post tra bod digon o amser o hyd i wneud hynny heb golli dim o'r mesurau diogelwch presennol, gan gynnwys llofnod a dyddiad geni.
Rhagor o fanylion
Mae gohirio etholiadau eto oherwydd y pandemig yn annymunol o safbwynt democrataidd. Mae cyfaddawdu ar ddiogelwch etholiadol y broses bleidleisio drwy'r post ar fyr rybudd hefyd yn annymunol o safbwynt uniondeb ein hetholiadau. Os caiff y trefniadau eu gadael tan fis Chwefror neu fis Mawrth, byddai’n rhy hwyr i symud i bleidleisio drwy'r post heb beryglu uniondeb etholiadol oherwydd y byddai'n rhy hwyr i gasglu'r manylion dilysu arferol, fel llofnod a dyddiad geni, yn ddiogel. Mae’n rhaid gweithredu ym mis Ionawr.
10 llofnod
50
Ar ôl casglu 50 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 50 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd