Deiseb a gwblhawyd Dylid ymestyn rhyddhad treth stamp yn dilyn cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau symud

Ers atal y dreth stamp dros dro yng Nghymru, gwelwyd hwb i'r economi a chynnydd mewn trafodion eiddo. Drwy ymestyn y rhyddhad hwn a dod â’r trefniant i ben yn raddol, gellid osgoi cwymp disymwth yn y farchnad eiddo, fel sy'n debygol o ddigwydd os daw’r cymorth rhyddhad i ben yn sydyn. Efallai y gallai Llywodraeth Cymru ystyried trefnu bod y rhyddhad yn gymwys i unrhyw drafodion lle cafodd contractau eu cyfnewid cyn 31 Mawrth 2021, gan ganiatáu i unrhyw drafodion sydd eisoes yn yr arfaeth gael eu cwblhau o dan y trefniadau manteisiol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

79 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Treth Trafodiadau Tir – ymestyn y cyfnod gostyngiad treth dros dro

Ar 3 Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i gyfnod gostyngiad treth dros dro y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodion sy’n cwblhau o 1 Ebrill 2021 i 30 Mehefin 2021, yn dilyn penderfyniad tebyg a wnaed yn Lloegr fel rhan o gyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y DU.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i'w weld yma: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-y-dreth-trafodiadau-tir-ymestyn-cyfnod-y-gostyngiad-dros-dro-yn-y-dreth