Deiseb a gaewyd Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd, ystorfa i drysorau hanesyddol, artistig a deallusol Cymru. Heb ragor o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd 30 o swyddi’n cael eu colli a gwasanaethau’n cael eu cwtogi’n ddifrifol. Mae rhyddid, ffyniant a datblygiad cymdeithas ac unigolion yn werthoedd dynol sylfaenol, a geir gan ddinasyddion gwybodus sydd â mynediad diderfyn at syniadaeth, diwylliant a gwybodaeth.
Rhagor o fanylion
Er mwyn sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr i bawb, gofynnwn i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chymorth ariannol, i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn borth gwybodaeth, gan sicrhau cyfleoedd dysgu gydol oes. Ni ellir disgwyl i lyrgelloedd greu eu hincwm eu hunain yn yr un modd â busnesau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 50 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
14,338 llofnod
10,000
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl
Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl