Deiseb a gwblhawyd Dylid adolygu'r canllawiau ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim, gan ddileu'r opsiwn ar gyfer dosbarthu parseli bwyd

Cafodd delweddau ofnadwy o barseli bwyd yn Lloegr eu dosbarthu, gan arwain at San Steffan yn ymrwymo i ddarparu talebau i bawb. Mae 3 chyngor yn dal i ddosbarthu parseli bwyd yng Nghymru. Mae teuluoedd wedi rhannu delweddau o barseli sy’n brin iawn o ddewis sydd ddim yn bodloni gofynion dietegol, ac yn ôl adroddiadau, sy’n cynnwys cynnyrch ffres wedi mowldio. Dyw rhai rhieni ddim yno i dderbyn y parseli oherwydd eu bod yn y gwaith, a bydd eisiau bwyd ar y plant, o ganlyniad.

Gwn beth yw’r stigma sy’n gysylltiedig â phrydau ysgol am ddim, mae’n bryd grymuso teuluoedd a gadael iddyn nhw ddewis yr hyn y mae eu plant yn ei fwyta.

Rhagor o fanylion

Yr arweiniad sy’n cefnogi rhieni orau yw ymrwymo i daliadau BACS yn ddiofyn, gyda thalebau’n cael eu darparu pan ofynnir amdanynt.

Mae Sefydliad Bevan yn argymell y dylai pob awdurdod lleol ddarparu taliadau arian parod. i osgoi problemau gydag ansawdd y bwyd mewn parseli – a faint o fwyd sydd ynddynt – yn ogystal ag osgoi stigma.

Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn amlinelli pam mai arian parod yw’r dewis cyntaf:
* Mae arian parod yn rhoi urddas i bobl trwy gael gwared ar y stigma sy'n aml yn mynd law yn llaw â defnyddio cefnogaeth mewn nwyddau, neu dalebau.
* Mae taliadau arian parod yn cynnig dewis a rheolaeth trwy alluogi teuluoedd i ddefnyddio cefnogaeth mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw, gan eu galluogi i ddiwallu'r anghenion lluosog sydd ganddyn nhw.
* Arian parod yw'r hyn sy’n well gan y rhan fwyaf o deuluoedd incwm isel.
* Mae arian parod yn dileu'r trefniadau cymhleth neu ddrud sy’n gysylltiedig â chyflenwyr cymorth mewn nwyddau.
* Mae taliadau arian parod yn caniatáu gwell gwerth am arian i deuluoedd
* Mae’n hwb i’r economi leol gan eu bod nhw’n fwy tebygol o wario’r arian gyda manwerthwyr lleol ac annibynnol, yn hytrach na mewn archfarchnadoedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

205 llofnod

Dangos ar fap

10,000