Deiseb a wrthodwyd Dylid gwyrdroi’r polisi o roi brechiadau Covid-19 yn raddol a’u cyflwyno’n ddiymdroi

Cydnabu’r Prif Weinidog heddiw bod y brechiadau covid-19 yn cael eu rhoi yn raddol er mwyn gwneud i’r cyflenwadau bara tan mis Chwefror, ac i sicrhau na fydd staff canolfannau brechu yn segur. Gall gwneud hyn roi llawer o fywydau mewn perygl. Dylid gwneud pob ymdrech i ddefnyddio’r cyfan o gyflenwad y brechlyn Covid-19 sydd ar gael yn ddiymdroi, ac ni ddylid cadw cyflenwadau yn ôl nac ymgymryd â’r gwaith brechu yn raddol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi