Deiseb a gwblhawyd Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig
Nid oes gan y Senedd unrhyw bwerau i alw refferendwm o'r fath i ganfod barn y cyhoedd am sut y caiff pwerau datganoledig eu hamgyffred yng Nghymru. Fodd bynnag, gall ofyn i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar gyfer pobl Cymru.
Rhagor o fanylion
Mae Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt) wedi bod ar waith ers 1999, yn seiliedig ar refferendwm a gynhaliwyd ym 1997. Gwyddom o'r refferendwm annibyniaeth diweddar yn yr Alban fod pleidlais o'r fath yn cael ei hystyried yn un "unwaith mewn cenhedlaeth", ac felly - 24 blynedd yn ddiweddarach - nid yw ond yn deg ac yn iawn i bobl Cymru gael lleisio eu barn unwaith eto.
Mae rhai’n credu y dylai Cymru gael mwy o bwerau ac annibyniaeth lawn, ond mae eraill yn credu y byddai pŵer canolog yn fwy effeithiol - ac yn gost-effeithiol.
Gyda’r pandemig presennol fel enghraifft, ar adeg agor y ddeiseb hon mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyfradd brechu, yn ogystal â bod â’r ail gyfradd waethaf o heintiau COVID-19 yn y byd (a adroddwyd yn flaenorol fel y gwaethaf, oherwydd camgymeriad adrodd yng Nghymru): https://www.walesonline.co.uk/news/politics/wales-second-worst-covid-coronavirus-19506904
O gymharu, byddai dull canolog wedi bod o fudd mawr i Gymru, o ran cymorth a gweithdrefn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon