Deiseb a gwblhawyd Sefydlu System Wobrwyo Genedlaethol Er Anrhydedd; Gwobr Urdd Marchog Cymru

Yr ydym ni, y cyhoedd yng Nghymru, wir yn dymuno dod ag Urddas i Gyflawnwyr ein Cenedl

Mae'n drasiedi lwyr bod cynifer o gyflawnwyr ein Cenedl wedi'u claddu, yn angof a heb eu dathlu mewn beddi ym mhob cwr o’r byd.... drwy gydol ein hanes balch a hir

Fy nymuniad, ers tro, yw anrhydeddu'r eneidiau hyfryd hyn, yma yng Nghymru sydd wedi ymuno mewn hanes a’u calonau, mae’n debyg, wedi torri o wybod na chawsant eu gwir gydnabyddiaeth yng........ "Ngwlad ein Mamau a’n Tadau"

Rhagor o fanylion

Ni fyddwn fyth wedi derbyn unrhyw Wobr sy'n gysylltiedig â'r "Ymerodraeth Brydeinig" yn system Wobrwyo Genedlaethol er Anrhydedd y Deyrnas Unedig; Mae Michael Sheen, er mawr glod iddo, wedi creu hanes ac wedi helpu i ryddhau pobl Cymru gyda'i weithredoedd arwyddocaol a gwrol

Mae wedi rhoi cryn loes i mi nad yw ein Llywodraeth yma yng Nghymru wedi dymuno codi proffil ac anrhydeddu llawer o feddyliau gwych a theilwng ein Cenedl, tra maent wedi byw yn ein plith; rwyf wedi fy nigalonni dros yr holl rai anghofiedig

Roedd Gwobrau Dewi Sant yn ddechrau ond mae angen i ni ddod â mwy o glod i bwy ydym ni fel Cenedl, wedi'r cyfan ni yw'r bobl a gyflwynodd i'r Byd hanesion y Brenin Arthur a'i Farchogion; gadewch inni unioni’r cam a sicrhau atebolrwydd, cwrteisi, urddas a pharch i’n colliedig a’n cyflawnwyr

Dylem ni fel Cenedl o bobl ddod at ein gilydd fel un, i gyd-dynnu, i estyn allan, i barchu’r eneidiau coll hyn o Gymru. Gadewch inni wneud hyn yn awr cyn i eicon arall fynd i'r nefoedd heb ei ddathlu a’i garu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

84 llofnod

Dangos ar fap

10,000