Deiseb a gwblhawyd Dylid gwneud etholiad y Senedd yn deg - caniatáu danfon taflenni gwleidyddol dan gyfyngiadau symud

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod etholiad nesaf y Senedd yn rhydd ac yn deg, drwy adael i ymgyrchwyr gwleidyddol ddanfon taflenni â llaw yn ddiogel dan gyfyngiadau symud.

Mae’n rhaid i bob pleidleisiwr gael cyfle teg i glywed gan ei ymgeiswyr a gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch sut i bleidleisio. Danfon taflenni yw'r ffordd fwyaf hygyrch i ymgeiswyr roi gwybod i bobl lle y maent yn sefyll. Byddai gwahardd danfon taflenni gwleidyddol yn rhoi mantais annheg i'r pleidiau mwyaf sydd â mwy o arian a dylanwad.

Rhagor o fanylion

Mae Chloe Smith, Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth y DU, wedi cyhoeddi na chaniateir danfon taflenni gwleidyddol gan wirfoddolwyr dan reolau cyfyngiadau symud Lloegr. A hynny er nad oes cyfyngiadau’n cael eu gosod ar y Post Brenhinol, cwmnïau danfon eraill, na danfon taflenni masnachol gan fusnesau.

Disgwylir i'r Cyfrifiad fynd rhagddo ym mis Mawrth, er bod hyn yn golygu bod angen i filoedd o weithwyr ddanfon taflenni a churo ar ddrysau ar draws y wlad, yn atgoffa pobl i lenwi a dychwelyd eu ffurflen Cyfrifiad.

Mae gwariant plaid wleidyddol eisoes yn cael ei reoleiddio gan y gyfraith cyn etholiadau’r Senedd. Mae'r rheoliad hwn ar waith gan ddisgwyl y byddai'r pleidiau bellach yn ymgyrchu.

Yn ystod pandemig, diogelwch sydd o'r pwys mwyaf. Ond os bydd yr etholiad yn mynd rhagddo ym mis Mai, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ganiatáu i actifyddion gwleidyddol ymgyrchu, ar yr amod eu bod yn cymryd rhagofalon diogelwch wrth wneud hynny. Byddai gwahardd danfon taflenni gwleidyddol yn taflu amheuaeth ar degwch unrhyw etholiad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

93 llofnod

Dangos ar fap

10,000