Deiseb a wrthodwyd Dylid gwahardd dosbarthu taflenni ymgyrchu gwleidyddol o ddrws i ddrws yn ystod y cyfyngiadau symud
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pleidleiswyr yn ddiogel rhag taflenni gwleidyddol a gaiff eu dosbarthu o ddrws i ddrws yn y cyfnod cyn etholiad nesaf y Senedd yn ystod y cyfyngiadau symud.
Nid yw dosbarthu taflenni yn ddiogel a gall hybu lledaeniad Covid-19 wrth i lawer o ymgeiswyr gwleidyddol deithio cannoedd o filltiroedd gyda thîm o bobl i ymweld â miloedd o aelwydydd.
Byddai’r cam hwn yn lleihau’r pryder i bleidleiswyr sy’n ofnus ynghylch cael ymweliadau digymell.
 thechnoleg a’r cyfryngau cymdeithasol ar gael, mae taflenni yn hen ffasiwn bellach.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi