Deiseb a gwblhawyd Ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl

Dylid ailagor canolfannau garddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl:
- Mae garddio’n cadw pobl gartref
- Mae garddio’n llesol iawn i’r meddwl a’r corff
- Mae canolfannau garddio’n fannau mawr sydd â llawer o awyr iach, ac mae ganddynt fesurau diogelwch rhagorol
- Ni ellir diffodd y gadwyn gyflenwi planhigion, a’i throi ymlaen eto. Mewn llawer o achosion, mae planhigion yn cael eu gwastraffu os na allant gyrraedd canolfannau garddio
- Nid siopa ar-lein, clicio a chasglu a danfon i’r cartref yw’r ateb. Mae hyn yn arbennig o anodd ar gyfer canolfannau garddio annibynnol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11,217 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ar 16 Mawrth 2021, gan nodi nifer y llofnodion a gasglwyd. Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl yn sgil y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y byddai canolfannau garddio yn gallu ailagor o 22 Mawrth ymlaen.