Deiseb a wrthodwyd Newid y gofynion mynediad ar gyfer addysgu yng Nghymru
Rwy’n siaradwr Cymraeg (ail iaith) sydd am addysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru. Mae gen i ddyscalcwlia, ac mae gradd B mewn mathemateg TGAU y tu hwnt i’m gafael. Yn anffodus, os nad yw’r gofyniad o ran mathemateg yn cael ei ostwng i’r lefel yn Lloegr, ni fyddaf yn gallu addysgu yng Nghymru. Ni fyddaf ychwaith yn gallu defnyddio fy sgiliau Cymraeg yn fy ngyrfa fel athro.
Gadewch i ni newid y gofynion mynediad ar gyfer addysgu. Byddai newid y radd angenrheidiol i C yn arwain at gynnydd yn nifer yr athrawon sy’n hyfforddi yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
Yn ôl Get Into Teaching, mae’r graddau TGAU sydd yn rhaid i ddarpar athrawon yn Lloegr eu cael yn cynnwys C mewn mathemateg TGAU.
Yn ôl Discover Teaching, mae’r graddau TGAU sydd yn rhaid i ddarpar athrawon yng Nghymru eu cael yn cynnwys B mewn mathemateg TGAU.
Mae ystadegau ar gyfer Cymru yn dangos nad ydym fel gwlad yn cyrraedd ein targedau o ran nifer yr athrawon sy’n cael eu hyfforddi yma. Roedd diffyg o 44 y cant yn nifer yr athrawon uwchradd a 22 y cant yn nifer yr athrawon cynradd yn 2018/19. Dyma’r bumed flynedd yn olynol y mae’r targedau ar gyfer hyfforddi athrawon wedi’u methu. Yn pen draw, bydd hyn yn arwain at ddiffyg athrawon yng Nghymru.
Dylai cael gradd C mewn mathemateg TGAU fod yn ddigon i ddangos bod sgiliau mathemateg unigolyn yn ddigon cryf yn academaidd i alluogi iddynt fod yn athro.
Gadewch i ni newid y gofynion mynediad ar gyfer addysgu. Gallai newid y radd angenrheidiol i C arwain at gynnydd yn nifer yr athrawon sy’n hyfforddi yng Nghymru. Fel arall, bydd y myfyrwyr sydd yn methu â chael gradd B mewn mathemateg TGAU yn parhau i hyfforddi/addysgu yn Lloegr, tra bod nifer yr athrawon yng Nghymru yn parhau i leihau.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi