Deiseb a wrthodwyd Dylai Addysg Arbennig gael ei hystyried yn sector hanfodol

Mae’r canllawiau cyfredol yn dweud y caiff ysgolion arbennig aros ar agor “os yw hynny’n bosibl”. Mae’r ddeiseb hon yn gofyn i’r Llywodraeth ailystyried hyn fel bod gan bob dysgwr yr opsiwn i fynd i’r ysgol yn ystod y cyfyngiadau yn hytrach na chriw dethol ohonynt.

Mae pobl ag anghenion addysgol arbennig yn cael trafferth wrth geisio ymdopi â’u bywydau newydd a’r amhariad ar eu trefn ddyddiol. Er enghraifft, mae rhywun sydd â diagnosis o ASD neu awtistiaeth yn dibynnu ar bethau cyfarwydd a strwythur. Pan gaiff y strwythur hwn ei dorri, gall arwain at newid ymddygiad negyddol.

Rhagor o fanylion

Gall pob un ohonom gytuno ein bod yn mynd drwy gyfnod anodd iawn, ac mae’n newid mawr i bawb, ond ni ddylai hynny olygu bod pobl sydd angen cymorth ychwanegol yn dioddef. Mae gen i ddau aelod o’r teulu sy’n mynd i ysgolion arbennig ac mae’r ddau yn profi effeithiau negyddol iawn o beidio bod yn yr ysgol, sydd hefyd yn anodd i’r bobl o’u cwmpas sy’n gwneud eu gorau glas i’w cysuro.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi