Deiseb a wrthodwyd To open all NationalTrust gardens in Wales

Why in Wales are the NationalTrust gardens closed but not in England

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Nid yw’n glir beth mae’r ddeiseb yn gofyn i’r Senedd neu Lywodraeth Cymru ei wneud. Mae angen i ddeisebau alw ar y Senedd neu’r Llywodraeth i gymryd camau penodol.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi datgan bod ei lleoliadau yng Nghymru ar gau yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth https://www.nationaltrust.org.uk/news/our-latest-statement-on-reopening-and-coronavirus-covid-19

Felly, er nad yw'r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am agor gerddi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, efallai yr hoffech gyflwyno deiseb newydd sy'n galw am newid y cyfyngiadau presennol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y cyfyngiadau yma: https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi