Deiseb a gwblhawyd Dylid darparu map trywydd ar gyfer sut y gall priodasau gael eu cynnal yng Nghymru

Dywedodd Prif Weinidog y DU y dylai priodasau ddechrau cael eu cynnal yn y ffordd arferol ar ôl y Pasg, ond nid oes dim arweiniad wedi’i roi yng Nghymru yn hyn o beth.

Mae’n bwysig i’r economi bod priodasau’n cael eu cynnal unwaith yn rhagor, a hynny gan gynnwys brecwastau priodas. Gan fod priodasau yn cymryd misoedd i’w trefnu, fodd bynnag, mae angen i gyplau a busnesau sy’n ymwneud â’r sector priodasau gael arweiniad clir o ran sut y disgwylir i briodasau gael eu cynnal dros y misoedd nesaf.

Rhagor o fanylion

Yn 2017 cynhaliwyd oddeutu 13,197 o briodasau (yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol). Mae 95% o gyplau wedi gohirio eu priodasau, gyda llawer o’r rhain wedi’u trefnu ar gyfer eleni, ar ben y rhai a oedd wedi bwriadu priodi eleni. (Tasglu priodasau y DU).

Felly mae’n bwysig darparu arweiniad clir cyn gynted ag sy’n bosibl i helpu i hybu’r economi drwy ganiatáu i briodasau gynnwys brecwastau priodas.

Dylai hyn gynnwys nodi niferoedd, a gaiff eu pennu yn ôl gallu’r lleoliad, gan ystyried gofynion cadw pellter cymdeithasol a chan gynnwys profi torfol ar gyfer yr holl westeion cyn dod i’r briodas /digwyddiad.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,273 llofnod

Dangos ar fap

10,000