Deiseb a gwblhawyd Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai’n rhoi gwyliau ardrethi i’r diwydiant lletygarwch a hamdden. Yn yr un modd â’r Alban, rhoddodd Llywodraeth Cymru ryddhad ardrethi i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £500,000. Cafodd llawer o fusnesau eu heithrio o’r gwyliau ardrethi oherwydd bod eu gwerth ardrethol dros £500,000. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd hyn yn rhannu bil yr ardrethi rhwng perchnogion y carafanau, felly nid ydym yn cael budd o’r gwyliau ardrethi ar yr adeg anodd hon, pan fyddai’r arian ychwanegol yn gymorth mawr. Mae pob un ohonom yn parchu dewis Llywodraeth Cymru i gau’r ffiniau er mwyn atal y feirws rhag lledaenu. Fodd bynnag, yn gyfnewid am hynny, hoffem ofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru drwy beidio â rhoi terfyn uchaf ar gyfer ryddhad ardrethi. Byddai hyn o gymorth mawr i berchnogion cartrefi gwyliau sydd ddim wedi gallu manteisio ar y rhyddhad ardrethi hyd yn hyn. Rydym am gael yr un rheolau ag sydd yn eu lle yn Lloegr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

640 llofnod

Dangos ar fap

10,000