Deiseb a gwblhawyd Dylid gosod Gwasanaethau Plant Caerdydd mewn mesurau arbennig, a chynnal adolygiad annibynnol ar frys

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd – a Gwasanaethau Plant yn benodol – wedi dirywio’n llwyr, gyda nifer o staff asiantaeth yn gyfrifol amdanynt. Disgrifiwyd arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru fel gwyngalch, a dywedwyd wrth staff am ‘gydymffurfio’. Mae teuluoedd yn cael eu methu a'u rhwygo'n ddarnau, mae plant yn cael eu dwyn oddi ar rieni cariadus a’r rheini sy’n dioddef cam-drin domestig yn cael eu gorfodi, wedyn, i ddod i gysylltiad â'r camdriniwr.

Rhagor o fanylion

Yn achos un teulu, cafodd plentyn ei ddwyn oddi ar ferch a ddioddefodd cam-drin corfforol a rhywiol erchyll gan ei chyn-bartner, yn dilyn proses yn y Llys i Deuluoedd lle defnyddiwyd tystiolaeth ddethol i fodloni’r trothwy. Cafodd y dioddefwr ddim llai na 9 o weithwyr cymdeithasol gwahanol mewn cyfnod o 12 mis, a 4 mewn 3 wythnos yn dilyn genedigaeth ei phlentyn. Yn fwyaf diweddar, fe adawodd y Gweithiwr Cymdeithasol oedd wedi bod gyda’r ddynes am lai na 6 mis gan ddweud wrth y ddynes ‘na allai, mwyach, weithio i Wasanaethau Plant Cyngor Caerdydd gan eu bod mewn helbul ac yn methu.’ Ni all y sefyllfa hon barhau, ni ddylid distrywio teuluoedd oherwydd bod sefydliad, neu staff y sefydliad hwnnw, yn methu rheoli llwythi gwaith, ac yn meddu ar agenda i ddwyn pob achos gerbron y llys gan gynnig dim cefnogaeth ac ymyrraeth, neu weithio i gadw teuluoedd gyda’i gilydd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

325 llofnod

Dangos ar fap

10,000