Deiseb a wrthodwyd Eithrio’r rhai sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf rhag gorfod talu’r Dreth Trafodiadau Tir yn hytrach na thalu’r cyfraddau safonol
Ar hyn o bryd, mae’r rhai sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru yn gorfod talu’r un Dreth Trafodiadau Tir â phawb arall sy’n ystyried prynu eiddo yng Nghymru. Er y bydd cost tai sy’n cael eu gwerthu i bobl sy’n prynu am y tro cyntaf mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru yn dal i fod islaw’r trothwy o £180,000, mae prisiau’n codi ar hyd a lled y wlad a gall yr angen i wario miloedd ar y Dreth Trafodiadau Tir atal nifer rhag prynu eiddo am y tro cyntaf, neu gall ei gwneud yn rhy gostus iddynt wneud hynny. Dylai’r rhai sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf gael eu cymell i brynu neu symud i Gymru, fel sy’n digwydd yn Lloegr.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi