Deiseb a wrthodwyd Cyflwyno cynllun clir ar gyfer codi cyfyngiadau’r cyfnod clo yng Nghymru a’r trothwyon sy’n rhaid eu cyrraedd
Mae Cymru wedi bod mewn cyfnod clo ers 20 Rhagfyr. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw gynlluniau i egluro sut a phryd y gellir codi’r cyfyngiadau hyn. Yn ôl ym mis Ionawr, nododd Llywodraeth Cymru y byddai’n dechrau codi’r cyfyngiadau unwaith y byddai cyfradd yr achosion yn cyrraedd 150 i bob 100,000 o bobl ac unwaith i gyfradd y profion cadarnhaol syrthio o dan 10 y cant. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, rydym wedi cyrraedd cyfradd achosion o 111.4 i bob 100,000 o bobl a chyfradd o 9.3 y cant o ran profion cadarnhaol. Serch hynny, nid oes unrhyw arwydd y bydd y cyfyngiadau’n cael eu codi.
Rhagor o fanylion
Mae’r economi wedi bod ar gau yn ddigon hir bellach. NID OES EGLURDER o ran sut a phryd y caiff cyfyngiadau eu codi. Nid oes unrhyw dargedau wedi’u gosod ac nid oes unrhyw ddyddiadau wedi’u pennu.
Rhowch gynllun inni sy’n nodi’n glir y trothwyon sy’n rhaid eu cyrraedd cyn codi’r cyfyngiadau. Hyd yn oed os nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu codi’r cyfyngiadau eto, gofynnwn iddi egluro pryd y GALLANT gael eu codi.
Mae Boris Johnson yn amlinellu ei gynllun ar gyfer Lloegr ar 22 Mawrth. Dylai Mark Drakeford wneud yr un peth!!!!!!
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi