Deiseb a gwblhawyd Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Rydym am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i beidio â chyflwyno yng Nghymru unrhyw e-basbortau imiwnedd neu basbortau i ddangos bod unigolyn wedi’i frechu. Mae’n bosibl y gallai unrhyw basbort o’r fath gael ei ddefnyddio i gyfyngu ar hawliau pobl sydd wedi gwrthod brechlyn COVID-19; er enghraifft, drwy eu hatal rhag cael mynediad i siopau, archfarchnadoedd neu leoliadau eraill. Byddai hyn yn annerbyniol.

Rhagor o fanylion

Ar 14 Rhagfyr 2020, dywedodd Nadhim Zahawi AS nad oedd unrhyw fwriad i gyflwyno pasbortau o’r fath. Mae’n parhau i wadu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud hynny, serch adroddiadau y bydd pobl sydd wedi’u brechu yn erbyn COVID-19 yn cael pasbort sy’n profi eu bod wedi’u brechu fel rhan o gynllun peilot sydd wedi’i gyllido gan y Llywodraeth.

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn hollol glir ynghylch ei bwriad a’r defnydd a wneir o basbortau ar ôl brechu, oherwydd byddai cyflwyno cynllun o’r fath yn ddi-os yn effeithio ar gydlyniad cymdeithasol ac ar adferiad economaidd Prydain Fawr eleni ac yn 2022.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

336 llofnod

Dangos ar fap

10,000