Deiseb a gwblhawyd Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl sy’n Noddfa

Mae Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus, wrthi'n hyrwyddo Cymru fel "cenedl sy’n noddfa" er mwyn i wladolion tramor (ffoaduriaid a cheiswyr lloches) ddod i fyw yng Nghymru. NID dyma yw ewyllys mwyafrif pobl Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'u hetholwyr eto (h.y Cymru fel cenedl) ynglŷn â'r mater hwn. Os daw Cymru i fod yn Genedl sy’n Noddfa, bydd treftadaeth Cymru yn cael ei herydu yn gyflym iawn.

Rhagor o fanylion

Dyma’r dyfyniad a geir ar https://wales.cityofsanctuary.org/cy/ "Rydym yn falch bod gennym gefnogaeth Llywodraeth Cymru eisoes ac rydym wedi cychwyn ar waith hynod o gyffrous gyda phrifysgolion, y gwasanaeth iechyd ac undebau llafur". Er bod lleiafrif bach iawn o bobl yng Nghymru, yn barod i agor eu breichiau, eu cartrefi a'u gwlad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, NID yw hynny'n cynrychioli’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng nghenedl Cymru.

Yn syml, ni allwn ni fel cenedl gynnal mwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i'w lleoli/cartrefu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn methu fforddio gofalu am bobl a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd neu do uwch eu pennau. Mae miloedd o bobl/teuluoedd (gan gynnwys plant) sy'n ddigartref yng Nghymru ac sydd angen cymorth ar frys. Gallai'r arian a arbedir trwy beidio â derbyn y ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches hyn yng Nghymru, gael ei wario ar helpu pobl Cymru sydd ag angen mawr amdano.

Rydym ni (y rhai sydd wedi'u llofnodi) eisiau diddymu Cymru fel cenedl sy’n noddfa.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,619 llofnod

Dangos ar fap

10,000