Deiseb a wrthodwyd Ôl-ddyddiwch daliad hunanynysu ar gyfer hysbysiadau drwy ap COVID-19 y GIG yn unol â llywodraeth Lloegr

Nid yw taliadau hunanynysu ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyfarwyddo i hunanynysu gan ap COVID-19 y GIG yn cael eu talu yng Nghymru oherwydd oedi cyn i Lywodraeth Cymru roi systemau ar waith i brosesu ceisiadau. Oherwydd yr oedi hwn, mae ceisiadau a gyflwynwyd rhwng y dyddiad dechrau gwreiddiol a fwriadwyd, sef 10 Rhagfyr 2020, a 1 Chwefror 2021, sef y dyddiad y rhoddwyd systemau ar waith o'r diwedd, yn cael eu gwrthod. Mae ceisiadau yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwn yn gymwys. Mae hyn yn amlwg yn annheg.

Rhagor o fanylion

Pan gyflwynwyd taliadau hunanynysu, dim ond y rhai a gyfarwyddwyd i hunanynysu drwy gysylltiad â gweithredwr dynol o'r system Profi a Olrhain oedd yn gymwys, nid y rhai a gyfarwyddwyd gan yr ap COVID-19. Cywirwyd yr anghysondeb hwn ar 10 Rhagfyr 2020, pan ychwanegwyd y gallu i wneud cais am daliad, at yr ap. Dechreuodd y cymwyster ar gyfer pobl yn Lloegr o'r dyddiad hwn, fodd bynnag, oherwydd methiant i roi systemau ar waith i brosesu ceisiadau sy'n seiliedig ar apiau, ni ddechreuodd Llywodraeth Cymru brosesu ceisiadau yn seiliedig ar apiau tan 1 Chwefror 2021. Ar hyn o bryd, nid yw unrhyw geisiadau mewn perthynas â hysbysiadau i hunanynysu a dderbyniwyd o'r ap rhwng 10 Rhagfyr 2020 a 1 Chwefror 2021 yn gymwys gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf y gallu i wneud cais am daliad drwy'r ap o 10 Rhagfyr 2020, a bod llywodraeth Lloegr yn derbyn ceisiadau o'r dyddiad hwn. Mae hon yn amlwg yn sefyllfa annheg, a hynny oherwydd methiant ar ran Llywodraeth Cymru i roi systemau ar waith i ymdrin â cheisiadau'n seiliedig ar apiau o 10 Rhagfyr 2020 fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi