Deiseb a wrthodwyd Agorwch gampfeydd ar 15 Mawrth er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant corfforol pobl
Mae campfeydd yn cefnogi pobl o bob oed, rhywedd, ethnigrwydd, ffydd a rhywioldeb. Dyma un o’r ychydig weithgareddau ar gyfer amrywiaeth mor eang o bobl. Nid ydynt yn llawn o’r hyn y mae rhai pobl yn ei gredu yw dynion cyhyrog - mae hyn yn hollol anghywir. Nid mannau ar gyfer iechyd corfforol yn unig yw campfeydd. Maent hefyd yn cefnogi iechyd meddwl. I lawer o unigolion, maent yn fannau heddwch, yn lle i ryddhau straen meddwl. Maent yn ddiogel. Rydym i gyd yn gwisgo masgiau i hyfforddi ac yn gweithio i ganllawiau’r llywodraeth.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Yn sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, tynnodd y deisebydd y ddeiseb yn ôl.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi