Deiseb a gwblhawyd Dylid agor campfeydd awyr agored a chaniatáu chwaraeon awyr agored yng Nghymru yn yr un modd ag yn Lloegr ar 29 Mawrth

Rydym yn rheoli campfa ym Mhorth Tywyn. Mae gennym 8,000 troedfedd sgwâr o le yn yr awyr agored, ac rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol o'r sesiynau hyn yn yr awyr agored a oedd yn dilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r cyfnod clo wedi gwneud niwed i lawer o’n haelodau, gan godi gorbryder, straen, ofn ac iselder. Mae pob un yn dweud bod ein sesiynau yn yr awyr agored wedi cadw'r cyflyrau hyn draw ac wedi bod yn help aruthrol drwy gyfnod anodd iawn. Nid oes modd gorbwysleisio eu heffaith ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol, a byddai'n hwb enfawr i fywyd cymunedol Cymru.

Rhagor o fanylion

Mae gwyddonwyr SAGE, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, yn dweud bod ymarfer corff yn yr awyr agored yn ddiogel ac yn argymell pawb i wneud ymarfer corff unwaith y dydd. Wrth wneud hyn, rydym yn cynnal yr holl brofion tymheredd, yn diheintio'r holl gyfarpar a ddefnyddir rhwng sesiynau, ac mae pawb yn trin ei gyfarpar ei hun. Mae’n siŵr ei bod yn llawer gwell ymarfer corff mewn amgylchedd proffesiynol rheoledig, gan roi hwb i iechyd y gymuned. Bu timau chwaraeon lleol hefyd yn arsylwi ar yr amodau llym hyn drwy gydol y cyfnodau y caniatawyd iddynt chwarae, a bydd ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith bwerus iawn ar blant ac oedolion yng Nghymru. Mae chwaraeon ysgol yn Lloegr, er enghraifft, yn dechrau ar 8 Mawrth, eto ar gyngor gwyddonwyr. Dewch i ni gael Cymru i fynd eto a pheidio â syrthio y tu ôl i Loegr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

272 llofnod

Dangos ar fap

10,000