Bydd Etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 6 Mai 2021.
Mae’r broses ddeisebau wedi cau dros dro yn ystod ymgyrch yr etholiad. Bydd deisebau’n ailagor ar ôl yr etholiad.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi cwrdd am y tro olaf, a bydd deisebau’n cael eu trafod gan bwyllgor newydd pan fydd wedi cael ei sefydlu.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2021 i’w chael yn senedd.cymru/etholiad
Cofrestrwch i bleidleisio
www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Deiseb a gwblhawyd Caniatáu chwaraeon dŵr diogel, gan gadw pellter cymdeithasol, yn ystod cyfnodau clo y coronafeirws
Mae gweithgareddau ac ymarfer corff yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl. Gofod glas: mae camlesi, afonydd, llynnoedd a'r arfordir yn ffynonellau llesiant gwerthfawr a diogel, a wrthodir i ni yng Nghymru ar hyn o bryd. O ganlyniad i hyn mae llawer ohonom yn dioddef o heriau iechyd meddwl gwirioneddol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r ymadrodd sy'n awgrymu bod pob math o chwaraeon dŵr yn cael ei wahardd yn ystod cyfnodau clo a chaniatáu mynediad at ofod glas lleol ar yr amod bod cyfyngiadau teithio yn cael eu dilyn.
Rhagor o fanylion
Rydym i gyd yn cytuno y dylem “osgoi gweithgareddau sy'n golygu cryn dipyn o risg” yn ystod cyfnodau clo beth bynnag fo'r amgylchedd lle mae'r rhain yn cael eu cynnal, er mwyn gwarchod y gwasanaethau brys. Fodd bynnag, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddileu'r ymadrodd sy'n awgrymu bod pob math o chwaraeon dŵr yn y categori hwn. Gall gweithgareddau dŵr fel caiacio, canŵio, syrffio, chwaraeon padlo a nofio yn yr awyr agored ddarparu ymarfer corff rhagorol a diogel ynghyd â buddion iechyd meddwl enfawr.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i aralleirio'r Cwestiynau Cyffredin hyn i ddarllen yn syml: “Gan mai un o ddibenion y cyfyngiadau yw lleihau’r pwysau ar y GIG yng Nghymru, dylech osgoi gweithgareddau sy’n golygu cryn dipyn o risg.”
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
1,447 llofnod
10,000