Deiseb a gwblhawyd Dylid ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru erbyn 12 Ebrill 2021
Gyda’r llacio arfaethedig o ran cyfyngiadau ar wyliau yng Nghymru a nodi strategaeth godi cyfyngiadau gan Lywodraeth y DU, rydym ni’n credu ei bod bellach yn bryd ailagor yn barhaol y sector hwn sy’n amhrisiadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol. Wedi’r cyfan:
- Mae lefel rhybudd y Gwasanaeth Iechyd wedi’i ostwng oherwydd bod llai o fygythiad yn sgîl y feirws;
- Cymru sydd wedi rhoi’r ganran uchaf o ddosau cyntaf o’r brechlyn COVID-19
- Ni sydd â’r nifer isaf o achosion fesul 100,000 ymhlith cenhedloedd y DU, sef 75.4 - sy’n debyg i’r gyfradd a welwyd ym mis Medi – ac mae meini prawf eraill a fodlonwyd yn golygu bod Cymru bellach wedi syrthio i lefel rhybudd 2 ar hyn o bryd.
Rhagor o fanylion
Mae llawer o dafarndai Cymru yn ganolbwynt cymunedau, yn darparu man lle gall pobl alw heibio a siarad â phobl eraill o’u cymuned leol, ac mae hynny’n helpu pobl i deimlo’n llai ynysig. Mae’r budd hwn i bobl i’w gael yn “lleol” yn benodol, ac yn aml caiff hyn ei anwybyddu.
Mae lletygarwch yn cynnwys tafarndai, bwytai a chaffis, sy’n denu pobl o bob rhan o’r gymdeithas ac sy’n darparu ffynhonnell incwm amhrisiadwy i’r gadwyn gyflenwi ehangach. Byddai pennu dyddiad, fel 12 Ebrill, yn caniatáu amser i’r cwmnïau hanfodol hyn gaffael a gweithgynhyrchu’r cyflenwadau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer ailagor lleoliadau.
Y llynedd, ailagorodd y sector yng Nghymru ar ôl y sector yn Lloegr, ac o ganlyniad gwelwyd refeniw Cymru yn mynd dros y ffin. Hyd yma, bydd lletygarwch wedi bod ar gau am ddau Basg, dau Ŵyl y Banc, Calan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, diwrnod Santes Dwynwen, diwrnod Sant Ffolant, cystadleuaeth Rygbi’r 6 Gwlad a hefyd Dydd Gŵyl Sant Padrig a Dydd Gŵyl Dewi.
Ni fydd llawer o fusnesau yn goroesi oni chyflymir y cam i ailagor y sector lletygarwch yma.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon