Deiseb a wrthodwyd Dylid gadael i’n plant gael eu gwyliau haf. Canolbwyntiwch ar eu llesiant ac nid eu cyrhaeddiad academaidd.

Yn dilyn cyfnod anodd iawn i blant Cymru, dylid gadael i’n plant chwarae, cymdeithasu a mwynhau’r haf ar ôl i’r cyfnod clo ddod i ben. Nid ‘Ysgol Haf’ sydd ei hangen arnynt yn awr. Mae angen iddynt gwrdd â’u ffrindiau, ymweld â’u neiniau a’u teidiau ac aelodau eraill o’r teulu. Mae angen iddynt gael cyfle i aros draw yn nhai eu ffrindiau a bod allan yn yr haul. Dylai eu llesiant ddod yn gyntaf, a’u cyrhaeddiad academaidd yn ail.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi