Deiseb a gwblhawyd Dylid cael gwared ar y camerâu cyflymder cyfartalog a’r terfyn cyflymder o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd
Mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r cynllun i osod camerâu cyflymder cyfartalog a phennu terfyn cyflymder newydd o 50mya ar yr M4 rhwng Casnewydd a Chaerdydd. Mae’n honni y bydd y mesurau hyn yn lleihau damweiniau a llygredd, ac yn lleddfu tagfeydd. Rydym yn mynnu bod y Llywodraeth yn gwyrdroi'r polisi hwn ar unwaith. Dylai'r buddsoddiad dan sylw fynd tuag at fentrau gwyrdd sydd o fudd i’r cyhoedd, yn hytrach na gosod cyfyngiadau arnynt. Y ffordd orau o leddfu tagfeydd yw cynyddu darpariaeth (fel creu lonydd ychwanegol neu adeiladu ffordd osgoi) yn hytrach na lleihau'r galw – a fydd yn niweidio'r economi.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon