Deiseb a wrthodwyd Dylid ailagor campfeydd yng Nghymru i ganiatáu i bobl weithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol

Mae siopau trin gwallt yn cael agor yng Nghymru o Fawrth 15fed ymlaen, ond nid yw campfeydd – sy'n un o'r sectorau prin sy'n cefnogi'r GIG trwy gadw pobl yn iach – wedi cael dyddiad ar gyfer agor.

Yn ôl y data, pan ailagorwyd campfeydd ddiwethaf roedd yna 2.06 o achosion fesul 100,000, sy’n swm isel iawn.

Mae canllawiau Llywodraethau Cymru ei hunan hefyd yn nodi y dylem ni fod yn haen 1, pan fydd achosion fesul 100k yng Nghymru’n is na 50 fesul 100k. Rydym yn dal i fod yn haen 4 ar hyn o bryd.

Rhagor o fanylion

O ystyried bod cyfraddau achosion bellach yn ddigon isel i fod yn haen 1, mae'n ymddangos yn hurt na chaniateir i gampfeydd agor fel y bydden nhw o dan sefyllfa haen 3 yng Nghymru.

Mae astudiaethau newydd hefyd wedi canfod bod cysylltiad uniongyrchol rhwng gordewdra a marwolaethau sy'n gysylltiedig â’r Coronafeirws. Mae 90% o'r holl farwolaethau o COVID-19 mewn gwledydd sydd â chyfraddau uchel o ordewdra. Eto i gyd, ni chaniateir i ni hyfforddi mewn amgylchedd diogel o hyd i wneud ein hunain yn iachach, a chryfhau ein gallu i oresgyn y feirws.

Wrth ystyried y pwyntiau uchod, mae'n chwerthinllyd bod Llywodraeth Cymru yn cadw cyfleusterau ffitrwydd ar gau ac yn ystyried agor siopau trin gwallt, a siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, o'u blaenau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yng sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, tynnodd y deisebydd y ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi