Deiseb a wrthodwyd Dylai trinwyr gwallt a barbwyr gael yr hawl i grant COVID y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau, a gyhoeddwyd ar 15 Mawrth 2021

Mae trinwyr gwallt wedi bod yn un o'r diwydiannau a gafodd eu taro waethaf ers dechrau pandemig COVID!! Fe'n gorfodwyd i gau heb unrhyw rybudd ar yr amser prysuraf ym mis Rhagfyr! Ni allwn ddychwelyd i fasnachu busnes arferol oherwydd gorfod cadw pellter cymdeithasol yn ein hamgylchedd.

Ym mis Gorffennaf y llynedd – pan oeddem yn un o'r busnesau manwerthu anhanfodol olaf i gael ailagor – chawsom ni ddim cymorth grant!! Yn syml, dyw’r adolygiad diweddaraf hwn ddim yn deg!!!!

Rhagor o fanylion

Pam mai ni bellach yw'r busnesau manwerthu anhanfodol cyntaf i allu agor? Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos cyn lleied o gefnogaeth â phosibl, ac mae'r cyhoeddiad heddiw wedi cadarnhau hynny!!

Erbyn hyn mae gen i fenthyciad adfer o £20,000 er mwyn dechrau ad-dalu, ac ni chefais unrhyw ryddhad hunangyflogaeth trwy gydol y pandemig!!

Dylai fod gennym yr hawl i'r grant diweddaraf i gefnogi dyfodol y diwydiant anhygoel hwn. Ni ddylem orfod parhau i’w chael yn anodd.... mae angen y gefnogaeth ariannol arnom llawn cymaint â phob busnes arall.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi