Deiseb a wrthodwyd Dylid agor cyfleusterau i blant allu mynychu dosbarthiadau dawnsio cheer, dawnsio, gymnasteg, celfyddydau perfformio ac ati

Dylid caniatáu i blant fynychu sesiynau tra’n cadw pellter cymdeithasol mewn amgylcheddau rheoledig ar gyfer eu chwaraeon.

Rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng gordewdra a phroblemau iechyd meddwl a byddai’r gweithgareddau hanfodol hyn yn cyfrannu’n fawr tuag at ddiogelu iechyd corfforol ac iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc yng Nghymru yn y dyfodol.

Gallai'r ansicrwydd presennol barhau am fisoedd a bydd yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl, iechyd emosiynol a llesiant cymdeithasol ein plant.

Dylid caniatáu i gwmnïau ddefnyddio'r prosesau sy'n sicrhau bod dosbarthiadau yn fannau diogel i fod ynddynt.

Rhagor o fanylion

Dawns
Dawnsio cheer
Nofio
Rygbi
Pêl-droed
Gymnasteg
Celfyddydau perfformio
Athletau
Crefftau ymladd
Trampolinio
Saethyddiaeth
Mae'r rhestr yn ddiddiwedd!

Mae ein plant yn cael eu hamddifadu o'r gweithgareddau sydd o fudd iddynt yn emosiynol ac yn gymdeithasol, sef y gweithgareddau sy’n mapio'r 5-10 mlynedd nesaf ar eu cyfer ...
Mae ein plant yn colli eu sgiliau, ac yn cael eu hatal rhag mynychu dosbarthiadau sy'n ffurfio rhan o'u dyfodol. Mae’r rhain yn weithgareddau y maent yn angerddol amdanynt, yn dda yn eu gwneud ac yn bwysicach fyth efallai, wedi treulio blynyddoedd yn gweithio i’w cyflawni.
Mae angen llais ar blant ac fel oedolion gallwn ni fod y llais hwnnw.
Helpwch a chefnogwch ein pobl ifanc, i'w cael yn ôl yn gwneud yr hyn sy’n ganolbwynt eu byd!
Ni ddylent golli dim rhagor o ddosbarthiadau na dim rhagor o sgiliau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yng sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, tynnodd y deisebydd y ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi