Deiseb a wrthodwyd Dylid cynnwys hunanamddiffyn mewn gwersi addysg gorfforol mewn ysgolion
Yn sgil y cynnydd o ran trosedd ac ymosodiadau, yn ogystal â stori Sarah Everard yn ddiweddar, byddai addysgu hunanamddiffyn mewn gwersi addysg gorfforol o fudd i bob plentyn yn fy marn i.
Rhagor o fanylion
Mae plant yn dysgu pêl-droed, gymnasteg, pêl-rwyd ac ati mewn gwersi addysg gorfforol. Beth am ychwanegu hunanamddiffyn i’r gwersi hyn? Byddai’n helpu plant ar ôl iddynt adael yr ysgol, neu hyd yn oed yn ystod eu hamser yn yr ysgol pan fyddant yn cerdded ar eu pen eu hunain.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi