Deiseb a gwblhawyd Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Fe foddodd Mark Allen, oedd yn 18 oed, ar ôl neidio i mewn i gronfa rewllyd ar ddiwrnod poeth ym mis Mehefin 2018. Ym mis Mai 2019, fe fuom yn gwylio 3 cortyn taflu’n cael eu gosod wrth y fan lle buodd farw. Gellid bod wedi achub Mark pe byddent yno’n barod.

Rhagor o fanylion

Rydym ni, teulu a ffrindiau Mark, o’r farn y dylai fod yn gyfraith gwlad i osod cortynnau taflu fel y rheini a osodwyd lle bu farw Mark, mewn lleoedd dynodedig o amgylch pob cronfa ddŵr, llyn, camlas ac ati. Wrth siarad â phobl sy'n gweithio ym maes diogelwch dŵr, e.e. gwasanaethau tân ac ati, mae cortynnau o'r fath wedi achub llawer o fywydau. Rydym ni eisiau achub bywydau ac arbed pobl rhag gorfod dioddef y torcalon a'r trasiedi o golli rhywun y maen nhw’n garu yn boddi.

Helpwch ni i wneud gwahaniaeth cadarnhaol er cof am Mark.

Diolch i chi, teulu a ffrindiau Mark 💜🙏

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11,027 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 7 Rhagfyr 2022

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru’ yn cael ei thrafod

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi' ei drafod gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 07 Rhagfyr 2022.

Busnes arall y Senedd

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar Ddeiseb P-06-1212 Cyfraith Mark Allen - rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle d?r agored yng Nghymru ar 02 Awst 2022: https://senedd.cymru/media/333d0awo/cr-ld15291-w.pdf.

Cafodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ei cyhoeddi ar 30 Tachwedd 2022: https://senedd.cymru/media/idgjrf2o/gen-ld15505-w.pdf.