Deiseb a gwblhawyd Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n moroedd!

Mae’n peri sioc bod mwy na 97% o’n hardaloedd morol gwarchodedig – a grëwyd i ddiogelu cynefinoedd cefnforol – yn cael eu dinistrio trwy gael eu carthu a'u treillio ar wely’r môr. Yn ôl dadansoddiad o ddata cychod pysgota, mae treillio gwaelodol – sef y math mwyaf dinistriol o bysgota yng nghynefinoedd gwely’r môr – yn digwydd mewn 71 allan o 73 o ardaloedd morol gwarchodedig alltraeth ledled y DU.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd pob math o dreillio gwaelodol yn nyfroedd Cymru, gan longau tramor a'r DU fel ei gilydd. Rydym ni mewn argyfwng ecolegol ac mae angen gweithredu nawr.

Rhagor o fanylion

Os na awn ati i gymryd camau nawr, ni fydd gennym unrhyw obaith o atal y broses erchyll o golli bioamrywiaeth, na lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Yr adroddiad diweddar, "Protecting the Global Ocean for Biodiversity, Food and Climate", yw'r adroddiad cyntaf i ddangos yr effaith i’r hinsawdd yn sgil treillio gwaelodol ar draws y byd. Mae'r arfer eang hwn o bysgota yn cynnwys llusgo rhwydi metel trwm ar hyd gwely'r môr, gan chwalu holl fywyd y môr sydd o’i flaen, i bob pwrpas!

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod y system hon o bysgota yn allyrru un gigadunnell o garbon bob blwyddyn. Mae'r carbon hwn yn cael ei ryddhau o waddod gwely'r môr i'r dŵr, a gall gynyddu’r broses o asideiddio'r cefnforoedd, yn ogystal ag effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant a bioamrywiaeth. Gwaddodion morol yw'r gronfa fwyaf o storio carbon yn y byd. Mewn gwirionedd, mae cychod pysgota sy'n treillio llawr y cefnfor yn rhyddhau cymaint o garbon deuocsid â'r diwydiant hedfan cyfan!

Does dim lle i dreillio gwaelodol mewn Cymru fodern sy’n gyfeillgar tuag at fyd natur!

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

205 llofnod

Dangos ar fap

10,000