Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i ysgolion asesu myfyrwyr fel y maent yn gweld yn addas, gan gynnwys defnyddio asesiadau llyfr agored
Yn ddiweddar, cyhoeddodd CBAC y bydd yn rhaid i fy ngholeg ein hasesu drwy gyfrwng asesiadau yn y dosbarth o dan amodau arholiad. Gwnaed y cyhoeddiad hwn 6 wythnos ysgol cyn bod ein hathrawon i fod i gyflwyno ein graddau, sy’n golygu mai cyfnod byr iawn fydd gennym i baratoi ar gyfer arholiadau. Nid yw hyn yn deg i fyfyrwyr sydd wedi cael gwybodaeth anghyson ynghylch sut y byddwn yn cael ein graddio gydol y flwyddyn. Ysgolion ddylai gael penderfynu sut i asesu myfyrwyr, gan fod y pandemig wedi effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon