Deiseb a wrthodwyd Dylid caniatáu i drinwyr gwallt symudol fynd yn ôl i'r gwaith nawr!

Mae'n gwbl annheg bod salonau trin gwallt a siopau barbwyr yn cael ailagor, a thrinwyr gwallt symudol ond yn cael ymweld â chleientiaid sy’n gaeth i’r tŷ.

Cafwyd cyhoeddiad ddydd Gwener 12 Mawrth gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y byddai trinwyr gwallt yn cael ailagor ddydd Llun 15 Mawrth. Yn fuan wedyn fe drodd cyffro’n siom i gleientiaid steilyddion gwallt symudol pan ychwanegodd y geiriau "pan na fydd y cleient yn gallu gadael y cartref yn ffisegol".

Rhagor o fanylion

Siawns nad yw’n llawer mwy diogel i gleientiaid gael un triniwr gwallt mewn PPE yn ymweld â'u cartref na gorfod mynd i salon lle mae nifer o drinwyr gwallt a nifer o gleientiaid eraill o'u cwmpas.

Mae’n bosibl y bydd gwneud hyn yn gorfodi cleientiaid ffyddlon i fynd i salon i gael trin eu gwallt, sy’n golygu y bydd steilyddion symudol yn colli mwy fyth o arian nag a gollwyd eisoes eleni.

Rwy'n deisebu Llywodraeth Cymru i newid ei meddwl a chaniatáu i drinwyr gwallt symudol yng Nghymru ddychwelyd i'r gwaith nawr.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi