Deiseb a gwblhawyd Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Diolch i'r Gweinidog Trafnidiaeth, mae gan Glan Conwy groesfan angenrheidiol i gerddwyr erbyn hyn ac mae gwelliannau diweddar i'r ffyrdd wedi cynyddu gwelededd. Fodd bynnag, mae llawer o drigolion yn poeni am gyflymder cerbydau a gofnodwyd dros gyfnod o bythefnos gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, sef 32.8 milltir yr awr ar gyfartaledd. Mae’r groesfan yn cael ei defnyddio gan blant ysgol ac oedolion i gyrraedd safle bws a chyfleusterau chwaraeon lleol yn ogystal â bod yn rhan o lwybr seiclo. Mae llawer o adroddiadau wedi bod yn y cyfryngau am ddamweiniau a fu bron â digwydd a cherbydau yn peidio â stopio.

Rhagor o fanylion

Un pryder penodol yw y gallai plant gredu eu bod yn ddiogel a chamu neu redeg allan i'r groesfan heb edrych. Bydd y tymor prysur yn yr haf pan fydd y twristiaid yn cyrraedd yn cynyddu’r perygl gan y bydd ymwelwyr yn anghyfarwydd â’r ffordd, yn ogystal â pheidio â thalu sylw o bosibl gan eu bod yn edmygu’r golygfeydd lleol.

I gloi, hoffai’r deisebwyr ddadlau bod 30 milltir yr awr yn rhy gyflym ar gyfer cyflwr y ffordd ar hyn o bryd ac maent yn gofyn i'r Gweinidog ystyried gostwng y terfyn cyflymder i 20 milltir yr awr yn agos at y groesfan.

Mewn gwrthdrawiad ar 30 milltir yr awr â cherddwr, y siawns o farwolaeth yw 25%, a’r siawns ar 20 milltir yr awr yw 2.5%, sy’n golygu ei fod 10 gwaith yn fwy diogel!

Byddai gosod terfyn o 20 milltir yr awr am 200 fetr yn ychwanegu ychydig eiliadau yn unig at amser taith, a byddai’n golygu ei bod yn llawer mwy diogel ac yn helpu i gael gwared ar bryderon rhieni, sy’n bwysig iawn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

85 llofnod

Dangos ar fap

10,000