Deiseb a wrthodwyd Dylid ailddechrau gwasanaethau rheilffordd o’r holl orsafoedd sydd wedi’u cau

Ers 7 Gorffennaf 2020, mae nifer o orsafoedd rheilffordd o amgylch Cymru wedi bod "ar gau dros dro". Mae dros 8 mis wedi mynd heibio ers iddyn nhw gau, ac mae yna dystiolaeth sy’n dangos bod y diwydiant rheilffyrdd a'r economi leol yn dioddef yn sgil y penderfyniad. Gobeithio y bydd gwasanaethau’n cael eu hadfer yn fuan ar ôl llacio’r cyfyngiadau symud yng Nghymru. Mae teithio ar reilffordd yn fwy diogel na theithio ar fws – mae mwy o le i gadw pellter cymdeithasol yn ogystal â chyfleusterau i olchi dwylo.

Rhagor o fanylion

Mae gorsafoedd y Fali, Llanfairpwll, Conwy, Cilfach Fargoed a Mynydd y Bwlch wedi bod ar gau ers 7 Gorffennaf 2020, oherwydd bod angen i’r giard agor y drysau â llaw. Mae sawl ffordd o agor drysau heb i'r giard fod yno:
– Ynysu’r drysau ar ben y caban ar hyd y daith, fel mai dim ond y drysau ar yr eiliau y gellir eu hagor.
– Gweithredu gwasanaethau Dosbarth 153 rhwng gwasanaethau intercity i godi teithwyr wrth arosfannau cais, er enghraifft gwasanaeth bob 2 awr rhwng Caergybi a Chyffordd Llandudno.
– Cael y giard i agor y drysau, cyn symud i fan arall i sicrhau cadw pellter cymdeithasol.

Gall sicrhau bod y gwasanaethau rheilffordd yn cael eu hailddechrau o'r gorsafoedd hyn gefnogi dyletswyddau pobl, gostwng y tebygolrwydd o gwymp yn yr economi leol, a gostwng nifer y teithwyr sy'n mynd ar fysiau, sydd eisoes yn wasanaeth bregus yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Roedd yn bosibl teithio o'r gorsafoedd hyn yn ystod y cyfnod clo cyntaf, pam bod hynny wedi newid?

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi