Deiseb a wrthodwyd Fly the Welsh flag on all government buildings every day.

We believe that in response to Boris Johnson's diktat that all government buildings fly the Union flag every day, the Senedd should legislate for all government buildings in Wales to also fly the Welsh flag every day. If we are to have a daily reminder of how British we are, it is only appropriate we have a similar reminder of our Welsh heritage as an act of inclusiveness towards those who feel more Welsh than British, or those who wish to celebrate their Britishness and Welshness equally.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n gofyn i’r Senedd wneud rhywbeth na all ei wneud.

Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hedfan baneri ar eu hadeiladau eu hunain. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hedfan baneri ar ei hadeiladau yng Nghymru.

Mae adrannau Llywodraeth y DU yn “awdurdodau a gedwir yn ôl” o fewn ystyr Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, nid oes gan y Senedd na Llywodraeth Cymru'r pŵer i gymryd y camau y mae'r ddeiseb yn gofyn amdanynt mewn perthynas ag adeiladau Llywodraeth y DU.

Darparwyd safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â baneri ar ei hadeiladau mewn ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig ym mis Hydref 2017: https://record.senedd.wales/WrittenQuestion/3104

Mae baner y Ddraig Goch a baner yr Undeb yn cael eu hedfan ar adeiladau a weithredir gan Gomisiwn y Senedd.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi