Deiseb a gwblhawyd Dylid gosod cerflun coffa o’r canwr Affricanaidd-Americanaidd Paul Robeson yn y Cymoedd

Canwr ac actor Affricanaidd-Americanaidd oedd Paul Robeson a ddaeth i gael cariad at Gymru a’i chymunedau glofaol. Bu’n cefnogi glowyr Cymru gyda'r elw o'i gyngherddau’n mynd at eu cronfa gymorth streicio ac aeth ar daith yng Nghymru, gan ganu yng Nghaerdydd, Castell-nedd ac mewn mannau eraill i godi arian i lowyr.

Pan oedd yn cael ei wahanu yn UDA, dywedodd iddo gael croeso cynnes diderfyn yng Nghymru, a dywedodd fod cymunedau glofaol Cymru wedi llywio ei fywyd.

Rhagor o fanylion

Yn ystod ei oes, dangosodd Paul Robeson undod anhygoel â chymunedau glofaol Cymru yn y Cymoedd.

O'i rôl yn serennu yn 'The Proud Valley', ffilm y byddai'n ei galw ei un anwylaf, a’i waith codi arian ar gyfer glowyr Cymru drwy ganu, i'w wahodd i berfformio ar gyfer Eisteddfod Glowyr Cymru ym 1957 (er iddo fethu dod oherwydd i Lywodraeth yr Unol Daleithiau atafaelu ei basbort), mae Robeson yn rhywun roedd poblogaeth Cymru yn ei werthfawrogi yn ystod ei oes, felly dylid ei werthfawrogi ar ôl ei farwolaeth.

Dysgodd Robeson rywfaint o Gymraeg hyd yn oed er mwyn canu i’r glowyr yn eu hiaith!

Mae’r gefnogaeth a roddodd i gymunedau glofaol Cymru yn ystod ei oes, cariad pobl Cymru ato a’r undod a ddychwelodd glowyr Cymru pan oedd yn cael ei holi gan Bwyllgor y Tŷ ar Weithgareddau Anamericanaidd a’i wahardd rhag teithio dramor yn golygu bod ganddo le arbennig unigryw ac eithriadol yn hanes Cymru, a dylid ei anrhydeddu felly.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

404 llofnod

Dangos ar fap

10,000