Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i weithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer 30 o bobl ailddechrau ar 12 Ebrill
Bydd gweithgareddau awyr agored ar gyfer 30 o bobl yng Nghymru yn cael eu caniatáu o fis Mai ymlaen. Y sefyllfa ar hyn o bryd yw y cafodd clybiau chwaraeon i rai o dan 18 oed eu caniatáu i ailddechrau ar 27 Mawrth ac mae ‘chwaraeon elitaidd’ wedi gallu parhau trwy gydol y cyfyngiadau Lefel 4.
Rhagor o fanylion
Nid wyf yn gweld unrhyw wahaniaeth rhyngof i, sy’n chwarae pêl-droed i dîm ar lawr gwlad, a rhywun o’r un oedran, o’r un ardal, sy’n chwarae pêl-droed i dîm ‘elitaidd’.
Mae llawer o bobl yn dibynnu ar y math hwn o weithgaredd, nid yn unig ar gyfer eu hiechyd corfforol, ond ar gyfer eu hiechyd meddwl hefyd.
Mae astudiaethau wedi dangos bod awyr iach yn gwasgaru ac yn gwanhau’r feirws. Mae gwyddonwyr wedi canfod bod y risg yn isel mewn mannau awyr agored.
www.bbc.com/news/amp/explainers-55680305
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Ystyriaeth Deiseb
Yng sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, penderfynodd y deisebydd peidio ceisio derbyn unrhyw ystyriaeth bellach am eu ddeiseb.