Deiseb a wrthodwyd Agorwch gyfleusterau gweithgareddau dŵr a phyllau nofio yng Nghymru yn gynt na’r dyddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
Cofnododd Nofio Cymru bod 500,000 o bobl yn defnyddio pyllau nofio bob wythnos ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau dŵr ledled Cymru cyn COVID. Gwersi dysgu nofio, gwersi nofio ysgolion (atal boddi), nofio ar gyfer ffitrwydd a iechyd cyhoeddus, clybiau nofio, cystadlaethau, galas a digwyddiadau, heb sôn am baratoi sgwad nofio cenedlaethol Cymru ar gyfer Gemau Olympaidd 2021 a Gemau’r Gymanwlad 2022.
Rhagor o fanylion
Mae pyllau nofio wedi bod ar gau yng Nghymru trwy gydol dau gyfnod clo cenedlaethol ac un cyfnod atal byr cenedlaethol, sef 43 wythnos o’r 52 wythnos diwethaf. Mae hyn yn arwain at oblygiadau anferth ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Yn ôl arolwg gan Nofio Cymru yn ddiweddar, collwyd 3.8 miliwn o wersi nofio, 1.2 miliwn o sesiynau clybiau nofio a dros 15 miliwn o sesiynau nofio i’r cyhoedd yn barod eleni.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.
Yng sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, tynnodd y deisebydd y ddeiseb yn ôl.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi