Deiseb a gaewyd Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer Gwasanaethau Iechyd, Addysg ac Ymwybyddiaeth Menywod

Cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd sy'n ymwneud â materion iechyd menywod, yn ogystal ag ymchwil, addysg ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Mae’r materion hyn yn cynnwys:
materion amenedigol, anafiadau yn ystod genedigaeth, cwymp y groth, ffibroidau, endometriosau, materion cysylltiedig â menopos, materion cysylltiedig â mislif, a'r effaith ar iechyd meddwl sy'n cyd-fynd â'r materion hyn.

Meysydd a allai elwa (enghreifftiau, ymhlith eraill): bydwreigiaeth, meddygon teulu, gynaecoleg, ffisiotherapi iechyd menywod, gwasanaethau iechyd meddwl (ee cwnsela).

Rhagor o fanylion

Mae nifer sylweddol o fenywod yn dioddef o faterion iechyd menywod. Wedi dweud hynny, mae cyfran fawr o'r menywod hyn yn dioddef mewn distawrwydd.

Oherwydd y diffyg dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a/neu adnoddau, mae yna lawer o faterion iechyd menywod nad ydynt yn cael eu diagnosio neu’n cael eu camddiagnosio, sy’n golygu’n aml bod y symptomau’n gwaethygu.

Nid yw’r effaith niweidiol ar iechyd meddwl yn cael ei datgan yn llawn ychwaith, ac mae angen mynd i'r afael â hyn.

Mae yna fater cyfochrog, sef bod cymdeithas a diwylliannau modern wedi normaleiddio llawer o faterion iechyd menywod, gan wneud i fenywod deimlo bod eu dioddefaint yn rhan arferol o fod yn fenyw. Mae angen mynd i’r afael â hyn ac mewn gwirionedd ni ddylid ystyried bod y materion hyn yn rhai “normal”.

Mae angen cyllid i wella ac ategu gwasanaethau, addysg ac ymwybyddiaeth iechyd menywod er mwyn bod menywod yn cael eu gweld, eu clywed, eu deall a'u trin yn fwy amserol

Mae angen cyllid hefyd er mwyn gallu mynd i'r afael â'r materion hyn a'u trafod yn ehangach yn llygad y cyhoedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

242 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Ymgynghoriad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymgynghoriad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ac mae ar agor tan ddydd Iau 24 Chwefror 2022: https://busnes.senedd.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=444&RPID=1027967372&cp=yes