Deiseb a gwblhawyd Gwrthodwch gynlluniau ar gyfer Cynllun Solar Ffermwyr Gwynllŵg, sef fferm solar ar gyrion Maerun.
Bwriad y cynllun hwn yw datblygu fferm solar 152 hectar ar Wastadeddau Gwent, sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n safle unigryw o ran ei gynefinoedd a’i fioamrywiaeth.
Dylid gwrthod y cynlluniau oherwydd yr effaith negyddol y byddent yn eu cael ar yr amgylchedd ac ar gynefinoedd rhywogaethau prin. Hefyd oherwydd yr effaith negyddol y byddent yn eu cael ar amgylchedd byw y pentrefwyr lleol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried safleoedd llai gwerthfawr yn amgylcheddol i gyflawni eu haddewid o ran ynni adnewyddadwy.
Rhagor o fanylion
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru newydd yr M4 i redeg drwy’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hwn, am resymau amgylcheddol. Byddai’n rhagrithiol caniatáu datblygu’r hyn sy’n gyfystyr â gorsaf ynni solar drwy’r un ardal, dim ond oherwydd ei bod yn cyfrannu at addewid y Blaid Lafur o ran ynni adnewyddadwy. Dylid dod o hyd i safleoedd mwy priodol.
Datganiad Gwrandawiad yr Ymgeisydd, a chynlluniau manwl:
https://dns.planninginspectorate.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/DNS/3216558/DNS-3216558-000297-Applicant%20Hearing%20Statement.pdf [Saesneg yn unig]
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon