Deiseb a wrthodwyd Atal gwahaniaethu ar sail gwallt ym maes gofal iechyd

Canfu astudiaeth a gynhyrchwyd ym mis Ebrill 2021 fod y rhan fwyaf o bobl ddu sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd wedi dioddef gwahaniaethu yn gysylltiedig â’u gwallt, gyda thermau fel “annerbyniol” a pholisïau hiliol sy’n dweud “ni ddylai gwallt fod yn is na’ch coler” sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl ddu sy’n gwisgo’u gwallt i ddangos eu hunaniaeth ddiwylliannol. Oeddech chi'n gwybod na all gweithwyr gofal iechyd du wisgo plethi mawr i’r gwaith oherwydd bod hynny’n “amhroffesiynol”? Yn bersonol, gofynnwyd i mi roi'r gorau i weithio nes i mi dynnu fy mhlethi.

Rhagor o fanylion

Pe bawn i’n gwrthod tynnu fy mhlethi, gofynnwyd i mi eu symud uwchben fy ngholer a defnyddio ategolion a oedd yn clymu fy mhlethi, sy’n ei gwneud yn anodd i mi dynnu’r ategolion o fy mhlethi sy’n glymau i gyd. Mae polisïau o'r fath yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ddu oherwydd bod gan ein gwallt wahanol ffurfiau a gweadau ac, yn sgil polisïau o'r fath, rydym yn dueddol o gael sylwadau hiliol gan gydweithwyr hiliol. Roedd y profiad wedi peri pryder i mi, a bu’n rhaid i mi gael sesiynau cwnsela gan fy eglwys leol oherwydd bob dydd roeddwn yn mynd i’r gwaith, roeddwn yn poeni bod rhywun yn mynd i bigo arnaf am reswm yn ymwneud â fy hunaniaeth hil.

Dyma un o'r nifer o ffurfiau o wahaniaethu y mae pobl ddu yn eu dioddef, oherwydd bod polisïau ar waith sy'n caniatáu hynny.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi