Deiseb a wrthodwyd Cyflymu’r broses ar gyfer caniatáu ac ailddechrau digwyddiadau rhedeg bach yng Nghymru

Mae wedi bod ymhell dros flwyddyn ers i ni gynnal digwyddiadau rhedeg rheolaidd ar gyfer athletwyr clwb a rhedwyr newydd yng Nghymru. Wrth i ddigwydiadau ailddechrau dros y ffin yn Lloegr, pam ddylai rhedwyr yng Nghymru orfod aros yn hwy a theithio mor bell i gael cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn?

Er bod Covid o amgylch o hyd a bod yn rhaid i ni fod yn ofalus, mae tystiolaeth yn dangos mai risg bach sydd o drosglwyddo Covid-19 wrth redeg yn yr awyr agored.

Rhagor o fanylion

Mae tystiolaeth yn dangos bod rhedeg a chymryd rhan mewn rasys yn rhoi hwb i iechyd meddwl llawer o bobl. Mae hyn wrth gwrs yn dda i iechyd corfforol fel y system gardiofasgwlaidd ac yn helpu i drechu gordewdra a materion iechyd eraill.

Mae llawer o bobl wedi dechrau rhedeg fel ffordd o ymdopi yn ystod y pandemig Covid, mae galw anferthol am annog a chaniatáu digwyddiadau mewn amgylchedd diogel.

Rwy’n galw ar y Senedd i ystyried yr amryw fuddion a faint o bobl sy’n colli rhan mor bwysig o’u bywydau.

Os bernir ei bod bellach yn ddiogel i bobl eistedd mewn tafarn neu fwyty, yna dylem allu dechrau cynnal rasys bach yng Nghymru.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi