Deiseb a wrthodwyd Remove the police and crime commissioner for South Wales Police
The police and crime commissioner has failed his duty to protect Mayhill citizens in the riots on 20/05/2021 we are calling for his removal as he is incompetent of his job and would require him to step down immediately and replace him with someone who can do the job
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae’n gofyn i’r Senedd wneud rhywbeth na all ei wneud.
Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.
Caiff y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu eu hethol a dim ond mewn amgylchiadau prin iawn y mae modd eu diswyddo rhwng etholiadau, er enghraifft os cânt eu hanghymhwyso. Mae’r amgylchiadau hyn i’w gweld yn Neddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011.
O dan Atodlen 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Senedd y DU sy’n ‘cadw’ y pwerau dros y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Felly, nid yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gallu cymryd y camau y mae’r ddeiseb yn galw amdanynt.
Hefyd, nid ydym yn derbyn deisebau ynghylch penodiadau neu ymddiswyddiadau drwy broses ddeisebau’r Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi